[vc_row inner_container=”no” padding_top=”0″ padding_bottom=”0″][vc_column z_index=”10″][rev_slider_vc alias=”aonb-enjoying-the-aonb-14″][vc_row_inner css=”.vc_custom_1573812755044{margin-top: -150px !important;}”][vc_column_inner][/vc_column_inner][/vc_row_inner][/vc_column][/vc_row][vc_row section_type=”alternate” type=”color” bg_color=”#ffffff” padding_top=”85″ padding_bottom=”0″ border=”bottom” el_class=”ov-hidden”][vc_column z_index=”10″ css=”.vc_custom_1573812851604{background-color: #ffffff !important;}”][vc_row_inner equal_height=”yes” gap=”35″ css=”.vc_custom_1574167728107{padding-top: 35px !important;padding-right: 40px !important;padding-bottom: 35px !important;padding-left: 40px !important;}”][vc_column_inner width=”1/2″ css=”.vc_custom_1573817089472{margin-top: 15px !important;margin-right: 15px !important;margin-bottom: 15px !important;margin-left: 15px !important;padding-top: 0px !important;padding-right: 0px !important;padding-bottom: 0px !important;padding-left: 0px !important;}”][vc_column_text]

Mwynhau’r AHNE

[/vc_column_text][vc_column_text text_color=”#333333″ el_class=”aonb-body”]Mae tirweddau trawiadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi denu ymwelwyr ers cannoedd o flynyddoedd. O gopaon godidog i ddyffrynnoedd coediog a golygfeydd dramatig bob yn ail: Dyma’r cefndir perffaith i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio a chwaraeon dŵr.

Mae hanes y bobl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal i’w weld yn y cyfoeth o atyniadau treftadaeth: archwiliwch ein cadwyn o fryngaerydd, mentrwch ar draws Dyfrbont Pontcysyllte, profwch y llonyddwch yn Abaty Glyn y Groes, ac ewch i weld dros eich hunain pam roedd Castell Dinas Brân a Chastell y Waun yn amddiffynfeydd mor effeithiol.[/vc_column_text][/vc_column_inner][vc_column_inner width=”1/2″][vc_column_text text_color=”#333333″ el_class=”aonb-body”]Rydym yn falch o’r cynefinoedd rydym yn eu cadw a’u gwella ar gyfer ein bywyd gwyllt. Gallwn gynnig y rhywogaethau prin a’r hardd, o adar fel Cornhedydd y Coed a’r Grugiar Ddu i blanhigion fel tegeirianau a Chrwynllys Chwerw. Dewch i ddarganfod, mwynhau ac efallai eu helpu i oroesi hyd yn oed.

Ein trefi a phentrefi yw curiad calon yr AHNE. Mae gan bob un eu cymeriad Cymreig amlwg eu hunain, ac amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai lle gallwch flasu bwyd a diod arbennig wedi’u cynhyrchu’n lleol. Cadwch olwg am ddigwyddiadau traddodiadol, fel eisteddfodau a sioeau gwledig, sy’n dal i adlewyrchu’r berthynas agos rhwng pobl a’r tir hyd heddiw.

Mae’n hawdd trefnu ymweliad gyda’n hawgrymiadau defnyddiol am ffyrdd i archwilio’r AHNE, p’un ai oes angen help arnoch ar gyfer teithio, parcio neu leoedd i aros.[/vc_column_text][/vc_column_inner][/vc_row_inner][/vc_column][/vc_row][vc_row padding_bottom=”80″][vc_column][vc_masonry_grid post_type=”projects” max_items=”-1″ orderby=”rand” item=”2829″ grid_id=”vc_gid:1589811325498-04070807-5840-10″ taxonomies=”267″][/vc_column][/vc_row]

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?