[vc_row inner_container=”no” padding_top=”0″ padding_bottom=”0″][vc_column z_index=”10″][rev_slider_vc alias=”aonb-caring-for-the-aonb-1″][vc_row_inner css=”.vc_custom_1573812755044{margin-top: -150px !important;}”][vc_column_inner][/vc_column_inner][/vc_row_inner][/vc_column][/vc_row][vc_row section_type=”alternate” type=”color” bg_color=”#ffffff” padding_top=”85″ padding_bottom=”0″ border=”bottom” el_class=”ov-hidden”][vc_column z_index=”10″ css=”.vc_custom_1573812851604{background-color: #ffffff !important;}”][vc_row_inner equal_height=”yes” gap=”35″ css=”.vc_custom_1574167728107{padding-top: 35px !important;padding-right: 40px !important;padding-bottom: 35px !important;padding-left: 40px !important;}”][vc_column_inner width=”1/2″ css=”.vc_custom_1573817089472{margin-top: 15px !important;margin-right: 15px !important;margin-bottom: 15px !important;margin-left: 15px !important;padding-top: 0px !important;padding-right: 0px !important;padding-bottom: 0px !important;padding-left: 0px !important;}”][vc_column_text]
Gofalu am yr AHNE
[/vc_column_text][vc_column_text text_color=”#333333″ el_class=”aonb-body”]Mae rhostir grug yn cefnogi nifer o anifeiliaid a phlanhigion prin yn cynnwys y rugiar ddu, bod tinwen ac adar eraill yr ucheldir. Dros y 50 mlynedd ddiwethaf mae dros hanner rhostir y byd wedi diflannu – ac mae’r gweddill mewn cyflwr gwael.
Mae tri chwarter o rug y byd sy’n weddill i’w ganfod yma yn y DU, sy’n golygu fod pwysigrwydd cadwraeth rhyngwladol i’r 3,000 erw o grug rhos sydd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Yn wir, ynghyd â’r gweundir glaswelltog, mae’r AHNE yn ffurfio’r ardal fwyaf o gynefin bywyd gwyllt sydd heb ei ddatblygu sy’n weddill yng Nghymru.
Er y caiff ei ystyried yn dirwedd wyllt a naturiol, mewn gwirionedd mae wedi cael ei greu wrth i bobl ei reoli’n barhaus dros sawl canrif. Mae ei oroesiad yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gynnal y system draddodiadol o bori ochr y bryniau gan adael i ddefaid fwyta’r llystyfiant ifanc, gan reoli lledaeniad coed a llwyni a chadw’r grug a llus yn fyr.[/vc_column_text][/vc_column_inner][vc_column_inner width=”1/2″][vc_column_text text_color=”#333333″ el_class=”aonb-body”]Mae angen rheoli’r cyfan er mwyn diogelu’r dirwedd werthfawr yma. Mae’r tîm AHNE, ynghyd â gwirfoddolwyr, ffermwyr lleol a ffermwyr defaid yn cydweithio i reoli’r rhostir a sicrhau fod sgiliau’r cenedlaethau blaenorol yn cael eu pasio i genedlaethau’r dyfodol. Bob blwyddyn maent yn rheoli hyd at 120 acer o lus a grug trwy’u llosgi neu eu torri.
Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i fwy o bobl werthfawrogi harddwch yr ardal, ynghyd â’r gallu cynyddol i deithio yma, mae’r rheolwyr wedi cynnwys rhaglen o alluogi twristiaeth tra’n cydbwyso nifer cynyddol yr ymwelwyr gydag amddiffyn y dirwedd y maent wedi dod i’w fwynhau.
Rydym eisiau i bobl ddod i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ond yn ogystal, rydym eisiau sicrhau fod pawb yn elwa, o’n cymunedau a busnesau lleol i brosiectau cadwraeth a mentrau amgylcheddol, ac wrth gwrs yr ymwelwyr eu hunain.
Gallwn gynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn yr AHNE a’r prosiectau o’i amgylch, o ran cynllunio, rheoli a chyfleoedd cyllid ar gyfer unrhyw brosiect sy’n amddiffyn neu’n gwella’r ardal.[/vc_column_text][/vc_column_inner][/vc_row_inner][/vc_column][/vc_row][vc_row padding_bottom=”80″][vc_column][vc_masonry_grid post_type=”projects” max_items=”-1″ orderby=”rand” item=”2827″ grid_id=”vc_gid:1589812189351-7aeff1cb-972a-5″ taxonomies=”269″][/vc_column][/vc_row]